Dacw'r ffynnon [fawr a / heddyw] gaed

(Gwaed y taenelliad)
1,(2),3;   1,2,5;  1,3,4,2.
Dacw'r ffynnon fawr a gaed,
Dyfroedd gloywon pur a gwaed,
  Darddodd allan ar y bryn,
  Ylch fy enaid bach yn wyn;
Dyma'm nerth i fyn'd ym mlaen,
Dyma sylfaen bur fy nghân.

Gair o'i enau sanctaidd Ef
'N awr a'm dwg i ganol nef;
  Yn ei eiriau mae'r fath rîn,
  Dodant nef a dae'r yn un;
Gwrando'i lais, a gwel'd ei wedd,
Yw fy mywyd tu yma i'r bedd.

Iesu, gorphwys yn dy glwy'
Wna fy enaid bellach mwy;
  Dyma'm noddfa werthfawr iawn,
  Fyth o fore hyd brydnawn;
Dyma 'nghysur oll i gyd,
Dyma'm nerth i'r nefol fyd.

Dyma y ffieiddiaf gaed,
'Nawr yn gorwedd yn ei waed:
  Nid oes neb all fy iachau,
  Maeddu 'mhechod, maddeu 'mai,
Ond a roddodd gadarn lef,
Rhwng y ddaear fawr a'r nef.

Ti Dy Hunan, Iesu mawr!
Yw fy noddfa ar y llawr;
  Gâd ìm' gael Dy gwmni cu
  Nes myn'd trwy'r Iorddonen ddu;
Yna deuaf ger Dy fron,
Heb ddychrynu gan y dòn.
fy enaid bach :: fy enaid oll
fy mywyd tu yma i'r bedd :: fy mywyd i a'm hedd
- - - - -
Dacw'r ffynnon heddyw gaed, Dwfwr gloew pur a gwaed; Dacw lli'n tarddu ar y bryn, Ylch fy enaid brwnt yn wyn; Dyma'm nerth i fyn'd yn mlaen, Dyma sylfaen bur fy nghân. Deffro, f'enaid, edrych draw, Gwel Galfaria bell gerllaw; Dacw'r hoel a'r bicell fain, Dacw'r goron bigog ddrain 'Nawr yn gorwedd ar Ei ben - Cryned daear, dued nen. O'i archollion rhed i maes Afon Ddwyfol, loew, las, Sydd yn achub, sy'n glanhau Miloedd o'r aflanaf rai; Doed y ddaear fawr yn gron, Yfent ddwr yr afon hon. Yn nghyfryngdod Iesu Grist Aros bellach, f'enaid trist; Noddfa i lofruddion yw, A chyfiawnder dynolryw. Gorphwys tano, f'enaid prudd, Nes êl heibio wres y dydd.
William Williams 1717-91

Tonau [777777]:
Orange (Urania 1761)
Berlin (Salmydd Goudimel 1562)
Cassel (Musicalischer Christen-Schatz 1745)
Dix (William H Monk 1823-89)
Newport (<1869)
St Austin (<1875)

gwelir:
  Arglwydd ffoed cymylau mwy
  Dyma gariad nefoedd wen
  Deffro f'enaid edrych draw
  'Does gyffelyb iddo Ef
  Ei gyfiawnder dwyfol Ef
  Mae ein taith i'r nefol fyd
  Ti dy hunan Iesu mawr
  Wele gariad nefoedd wen

(The blood of the outpouring)
 
Yonder is the fount got today,
Clear, pure water, and blood,
  Which issued out on the hil,
  Which will wash my little soul white;
Here is my strength to go forward,
Here is the pure foundation of my song.

A word from His holy mouth
Now leads me to the centre of heaven;
  In his words is such merit,
  They set heaven and earth as one;
To hear his voice, and see his face,
Is my life on this side of the grave.

Jesus, to rest in thy wound
Make my soul henceforth ever more;
  Here is my very precious refuge,
  Forever from morning until evening;
Here is all my comfort altogether,
Here is my strength for the heavenly world.

Here is the most detestable found,
Now lying in his blood:
  There is no-one who can heal me,
  Beat my sing, forgive my fault,
But he who gave a firm cry,
Between the great earth and heaven.

Thou thyself, great Jesus,
Art my refuge on earth below;
  Let me get thy dear company
  Until going through the black Jordan;
Then I shall come before thy breast,
Without being terrified by the waves.
my little soul :: my soul all
my life this side of the grave :: my life and my peace
- - - - -
Yonder is the fount got today, Of bright, pure water and blood; Yonder a flood springing on the hill, Which will wash my filthy soul white; Here is my strength to go forward, Here is the pure foundation of my song. Awake, my soul, look yonder, See distant Calvary at hand; Yonder the nail and the sharp spear, Yonder the crown of spiky thorns Now lying on His head - Let earth tremble, let sky blacken. From his wounds runs out A Divine, bright, blue River, Which is saving, which is cleansing Thousands of the unclean ones; Let the great earth come around, Let them drink the water of this river. Yn the mediation of Jesus Christ Wait henceforth, my sad soul; A refuge for murderers it is, And the righteousness of humankind. Rest under it, my grave soul, Until the heat of the day passes.
tr. 2016,20 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~